Skip to Main Content
close Close

Beth yw Nest?

Cynllun pensiwn gweithle yw Nest a sefydlwyd gan y llywodraeth yn arbennig ar gyfer cofrestru awtomatig. Gall cyflogwyr ein defnyddio’n rhad ac am ddim, ac fel cynllun ar-lein mae ein prosesau’n gyflym a hawdd. Mae gweithwyr hefyd yn elwa a gall ein dull buddsoddi sydd wedi ennill gwobrau helpu i dyfu eu cynilion ar gyfer ymddeol.

Edrychwch sut y gallai Nest weithio i chi

Beth mae cofrestru awtomatig yn ei olygu i gyflogwyr

Cyflwynwyd cofrestru awtomatig gan Ddeddf Pensiynau 2008. O dan y rheolau hyn mae’n ofynnol yn gyfreithiol i bob cyflogwr yn y Deyrnas Unedig roi staff penodol mewn cynllun pensiwn a thalu arian i’w potiau pensiwn. Mae hyn er mwyn helpu gweithwyr i gynilo hynny ag sy’n bosibl ar gyfer eu hymddeoliad.

Yn ogystal â thalu cyfraniadau, mae cyflogwyr yn dal i fod â llawer o ddyletswyddau cofrestru awtomatig eraill. Rydym yn helpu pob cyflogwr sy’n defnyddio Nest i ddeall eu gofynion a’r camau mae angen iddynt eu cymryd.

Dysgwch fwy am gofrestru awtomatig

Helpu gweithwyr i gynilo ar gyfer ymddeol

Bob tro rydych yn talu i mewn i bensiwn gweithle fel Nest, byddwch yn cael cyfraniadau gan eich cyflogwr ac arian ychwanegol rhyddhad treth gan y llywodraeth os ydych chi’n gymwys. Felly, mae’n ffordd glyfar o dyfu eich cynilion ar gyfer ymddeol.

P’un a ydych chi’n gwybod llawer ynteu ychydig am bensiynau, byddwn yn sicrhau bod gennych hynny o reolaeth ag y bydd arnoch chi eisiau ei chael. Os oes arnoch eisiau dewis sut i fuddsoddi, gallwch wneud hynny. Os byddai’n well gennych osod eich nod yn unig, a gadael y gwaith o gyrraedd y nod hwnnw i ni, gallwch wneud hynny hefyd. P’un a oes gennych chi bunt yn eich cyfrif ynteu miliwn, byddwn yn canolbwyntio’r un mor galed ar ei helpu i dyfu.

Darllenwch fwy am ymuno a chynilo gyda Nest

Cynghorwyr proffesiynol a chofrestru awtomatig

Er mwyn cydymffurfio â chofrestru awtomatig, roedd miloedd o gyflogwyr yn gorfod adolygu’r ddarpariaeth pensiynau a gynigiant. Mae hyn yn rhywbeth roedd llawer ohonynt heb erioed angen ei wneud o’r blaen. Mae llawer o gyflogwyr yn troi at eu cyfrifwyr, eu darparwyr cyflogres neu eu hymgynghorwyr ariannol i’w helpu i gyflawni eu dyletswyddau.

Os ydych yn weithiwr proffesiynol sy’n helpu cyflogwyr i reoli eu darpariaeth pensiynau, mae cofrestru awtomatig yn cynnig cyfle gwych i ehangu’r gwasanaethau rydych yn eu cynnig i gleientiaid. Mae hefyd yn gyfle i fanteisio ar farchnad enfawr o gyflogwyr sydd angen gwasanaethau pensiynau.

Edrychwch sut y gallwch adeiladu eich busnes gyda Nest

Ynglŷn â Nest

Corfforaeth gyhoeddus yw Corfforaeth Nest, yr Ymddiriedolwr sy’n rhedeg cynllun Nest. Mae’n atebol i’r Senedd trwy’r Adran Gwaith a Phensiynau ond mae’n gyffredinol annibynnol ar y llywodraeth yn ei phenderfyniadau o ddydd i ddydd.

Dysgwch sut caiff Nest ei redeg